i'w ddarllen yn Gymraeg   Cwestiynau cyffredin Pam ydych chi wedi symud? Rydym wedi symud i'n cyfleuster newydd Canolfan Iechyd Genomeg Cymru (CIGC) oherwydd nad yw'r cyfleusterau presennol bellach yn addas i'r diben. Wrth i’r galw am y gwasanaethau genomeg barhau i gynyddu, rydym am fod mewn sefyllfa lle gallwn barhau i ddarparu gofal o’r ansawdd uchaf, mewn cyfleusterau addas, ar gyfer y nifer cynyddol o’n cleifion sydd angen ein gwasanaethau.   Sut mae hyn o fudd i gleifion? Mae’r cyfleuster newydd wedi’i gynllunio’n benodol gyda’n cleifion mewn golwg, ac mae’n cynnwys y technolegau a’r adnoddau diweddaraf, gyda’r nod o wella gofal cleifion nawr ac yn y dyfodol. Mae’r gofod clinig newydd yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru yn darparu lleoliad lle gall cleifion deimlo’n dawel eu meddwl y gallwn barhau i ddiwallu eu hanghenion mewn man pwrpasol, gan ganiatáu ar gyfer gwell parhad gofal a gwell tawelwch meddwl.   A fydd yna ddau leoliad yng Nghaerdydd bob amser? Bydd gwasanaeth clinigol Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan wedi'i leoli yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru ac mae'r cyfleusterau cleifion yma wedi'u cynllunio gyda chymorth gan gleifion a theuluoedd Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan i ddarparu'r profiad a'r canlyniad gorau posibl i gleifion. Felly, bydd y cyfleusterau gwasanaeth geneteg pwrpasol presennol ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru yn cael eu cau yn y pen draw gan nad ydynt bellach yn bodloni gofynion ein gwasanaethau.   Er ein bod yn gobeithio y bydd manteision safle Canolfan Iechyd Genomeg Cymru i gleifion yn ddeniadol iawn, rydym hefyd yn deall y gallai mynediad i’r safle newydd fod yn heriol i unigolion. Felly, byddwn yn parhau i gynnig dewis i gleifion a theuluoedd y byddai’n well ganddynt gael mynediad at wasanaethau yn agos at safle Ysbyty Athrofaol Cymru ac sy’n hapus i drafod yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi, drwy fynd i’r afael ag anghenion unigolion, fesul achos. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru gan y gallwn gynnig cyfleusterau clinig pediatrig arbenigol yn y lleoliad hwn   Hygyrchedd/Cyfleusterau Safle   Ble mae'r safle newydd? Mae’r safle wedi’i leoli ym Mharc Busnes Cardiff Edge, Longwood Drive, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 7YU – mae’r safle yn agos at gylchfan Coryton sydd ar yr A470 a chyffordd 32 traffordd yr M4   Oes lle parcio? Oes rhaid i mi dalu? Oes, mae digon o leoedd parcio pwrpasol ar gyfer cleifion, ymwelwyr a staff yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru, gan gynnwys mannau parcio hygyrch. Nid oes rhaid i chi dalu i barcio.   A oes lle parcio hygyrch? Oes, mae nifer o leoedd parcio hygyrch ar gael, gyda chilfachau wedi'u nodi'n glir a ramp hygyrchedd i'r adeilad   Beth yw'r opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus? Bws Mae gwasanaeth bws 132 Caerdydd – Maerdy yn rhedeg yn rheolaidd o ganol dinas Caerdydd i Westy’r Village. Yr arhosfan bws agosaf gyda gwasanaethau rheolaidd yw Gwesty'r Village, taith gerdded 10 i 20 munud o Ganolfan Iechyd Genomeg Cymru. Fel arall, gallwch ddod oddi ar y bws wrth Ysgol Gynradd Tongwynlais a chael mynediad i'r safle ar hyd Taith Taf.   Trên Y gorsafoedd trên agosaf yw Radur a Coryton. Gwasanaethir Gorsaf Radur gan wasanaethau bob hanner awr i'r de o'r Rhondda a Bro Merthyr, ac i'r gogledd o'r Barri a Chaerdydd. Mae'r orsaf tua 15 munud ar droed o Ganolfan Iechyd Genomeg Cymru. Gwasanaethir Gorsaf Coryton gan wasanaethau bob hanner awr o Orsaf Ganolog Caerdydd a Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd. Mae'r orsaf tua 20 munud ar droed o Ganolfan Iechyd Genomeg Cymru.   Sut ydw i'n dod o hyd i'r clinig? Mae’r clinig yn daith gerdded fer o’r maes parcio ac mae llwybr hygyrch o’r maes parcio i’r safle. Ar y map isod, mae'r ardal a amlinellir mewn melyn yn nodi ein hardal barcio. Mae’r llinell ddotiog ddu yn dangos y llwybr i ac o’r ffordd fynediad i’n maes parcio drwy’r brif giât ddiogelwch. Mae’r llinell ddotiog goch yn dangos y llwybr cerdded o’n maes parcio i’r adeilad.   Bydd map hefyd yn cael ei gynnwys yn eich llythyr apwyntiad, os cewch eich gwahodd i fynychu Canolfan Iechyd Genomeg Cymru.   A oes gan y safle fynediad i'r anabl? Oes, mae mynediad i'r anabl i'r safle. Mae llwybr hygyrch o'r maes parcio i'r safle ac mae ein holl glinigau cleifion wedi'u lleoli ar lawr gwaelod yr adeilad.   A oes toiledau ar y safle? Oes, mae toiledau ar y safle, gan gynnwys toiledau hygyrch a chyfleusterau newid cewynnau yn y dderbynfa.   A oes unrhyw gyfleusterau arlwyo ar y safle? Nid oes unrhyw gyfleusterau arlwyo ar y safle ar hyn o bryd. Mae'r cyfleusterau arlwyo agosaf tua 15 munud ar droed neu 4 munud mewn car. Y rhain yw ASDA, Starbucks a McDonalds. Bydd dŵr yfed yn cael ei ddarparu yn ystafell y clinig.   A fydd gwybodaeth/arwyddion ar gael yn Gymraeg? Bydd, bydd gwybodaeth ac arwyddion ar gael yn Gymraeg.   Gwybodaeth am Apwyntiadau Pwy sy'n penderfynu pa fath o apwyntiad sydd gennyf? Byddwch chi a'ch meddyg genetig yn trafod pa fformat apwyntiad sydd fwyaf addas yn seiliedig ar eich amgylchiadau a'ch gofynion. Fodd bynnag, os bydd angen i'ch meddyg eich gweld yn bersonol, er enghraifft, ar gyfer archwiliad, gofynnir i chi ddod i'ch apwyntiad yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru, ac mae apwyntiadau Ysbyty Athrofaol Cymru yn parhau i fod ar gael i'w gwneud drwy eithriad.   Beth ddylwn i ei wneud os nad wyf am i'm hapwyntiad gael ei gynnal yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru? Os ydych wedi cael gwahoddiad i fynychu apwyntiad yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru ac yn teimlo na allwch fynychu, cysylltwch â thîm apwyntiadau Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan a byddant yn cadarnhau a oes unrhyw ddewisiadau amgen addas ar gael.   Sut gallaf gael apwyntiad yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru? Sut byddaf yn cael fy atgyfeirio ar gyfer fy apwyntiad? Os ydych yn gymwys ar gyfer apwyntiad genetig Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan ac yr hoffech i hwn gael ei gynnal yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru, gallwch roi gwybod i'ch meddyg atgyfeirio a gallant roi gwybod i chi a yw hyn yn bosibl. Fel arall, gallwch wneud y cais hwn drwy dîm apwyntiadau Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan os ydych eisoes wedi derbyn gwahoddiad am apwyntiad yn rhywle arall, a byddant yn cadarnhau a yw hyn yn bosibl.   Pa glinigau/apwyntiadau sy'n cael eu cynnal yn y lleoliad newydd? Cynhelir y clinigau wyneb yn wyneb canlynol yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru: Clinigau geneteg cyffredinol Clinigau geneteg canser Clinigau geneteg cynenedigol Clinigau niwrogeneteg   A allaf gysylltu â'r lleoliad yn uniongyrchol ynglŷn â'm hapwyntiad? Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich apwyntiad, ffoniwch y rhif ar eich llythyr apwyntiad wedyn byddant yn gallu rhoi gwybod i chi am eich apwyntiad gyda Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan boed yn Ysbyty Athrofaol Cymru neu Ganolfan Iechyd Genomeg Cymru.   Sut ydw i'n cofrestru ar gyfer fy apwyntiad? Pan fyddwch yn cyrraedd y dderbynfa, rhowch wybod i’r derbynnydd eich bod wedi cyrraedd ar gyfer eich apwyntiad a byddant yn eich cofrestru.   Beth ddylwn i ei wneud os bydd angen i mi newid fy apwyntiad? Os oes angen i chi wneud newidiadau i'ch apwyntiad, ffoniwch y rhif ar eich llythyr apwyntiad a bydd aelod o'r tîm yn eich cynorthwyo.   A oes angen i mi gael fy apwyntiad wyneb yn wyneb? A allaf ei gynnal yn rhithwir? Mae angen apwyntiad wyneb yn wyneb ar lawer o'r cleifion a gyfeirir at Ganolfan Genomeg Feddygol Cymru Gyfan oherwydd efallai y bydd angen i'r meddyg eich archwilio chi neu'ch plentyn. Os yw apwyntiad rhithwir yn opsiwn, cynigir hyn i chi pan fydd eich apwyntiad yn cael ei drefnu. Os ydych wedi cael cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb ond y byddai'n well gennych apwyntiad rhithwir, ffoniwch dîm apwyntiadau Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan a byddant yn rhoi gwybod i chi os yw hyn yn bosibl.   Sut beth fydd fy apwyntiad yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru? Fel gyda phob un o'n lleoliadau apwyntiad, bydd meddyg geneteg neu gynghorydd genetig yn gofyn cwestiynau perthnasol i chi am eich hanes personol a theuluol. Efallai y bydd angen iddynt wedyn eich archwilio a thynnu ffotograffau. Ar y pwynt hwn, efallai y bydd angen i chi gael prawf genetig.   A fydd fy ngofal dilynol yn wahanol o gwbl os bydd gennyf apwyntiad yn y cyfleuster newydd? Na, bydd unrhyw ofal dilynol a gewch yr un fath â'r hyn y byddech yn ei dderbyn yn unrhyw un o'n clinigau eraill, neu yn dilyn apwyntiad rhithwir.   Sut byddaf yn cael fy nghanlyniadau? Pryd byddaf yn eu cael?  Bydd yr unigolyn sy'n trefnu'r prawf yn trafod sut yr hoffech chi dderbyn eich canlyniadau. Bydd gennych bob amser yr opsiwn o gael apwyntiad dilynol yn ddiweddarach i drafod y canlyniadau yn fanylach, os dymunwch. Mae pryd y cewch eich canlyniadau yn dibynnu ar y cyflwr a'r math o brawf a gawsoch. Bydd yr unigolyn sy'n trefnu'r prawf yn rhoi amserlen i chi o ran pryd y gellir disgwyl eich canlyniadau.   Rwy'n poeni am y canlyniadau, beth ddylwn i ei wneud? Gallwch drafod hyn gyda'r clinigwr a drefnodd y prawf. Dylai rhif cyswllt fod wedi cael ei roi i chi yn y clinig a/neu ei gynnwys yn eich llythyr.   Rydym yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwn yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
  i'w ddarllen yn Gymraeg   O 6 Tachwedd 2023, symudodd tîm clinigol Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan i Ganolfan Iechyd Genomeg Cymru (CIGC) sydd newydd agor ym mharc busnes Cardiff Edge yng Ngogledd Caerdydd Coryton. Mae’r safle hwn ychydig oddi ar Gyffordd 32 traffordd yr M4 a thua 3 milltir o’i leoliad presennol ar gampws Ysbyty Athrofaol Cymru. Bydd cleifion sy'n cael eu hatgyfeirio at wasanaeth clinigol Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan ar gyfer apwyntiadau genetig a genomeg personol yn awr yn cael y dewis o fynychu gofod clinig modern a phwrpasol Canolfan Iechyd Genomeg Cymru. Bydd cleifion hefyd yn parhau i gael cynnig apwyntiadau galwad ffôn neu fideo yn unol â'u hanghenion a'u dewis unigol. Patients referred to the AWMGS clinical service for in-person genetic and genomic appointments will now have the option of attending the CIGC’s state-of-the-art and purpose-built clinic space. Patients will also continue to be offered telephone or video call appointments in accordance with their individual needs and preference.   Pa Wasanaethau Clinigol Fydd Ar Gael yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru? Clinigau geneteg cyffredinol Clinigau geneteg canser Clinigau geneteg cynenedigol Clinigau niwrogeneteg                            Pam mae Tîm Clinigol Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan yn Symud? Wrth i’r galw am wasanaethau genomeg yng Nghymru barhau i gynyddu, hoffem ofalu am ein cleifion mewn adeiladau sy’n bodloni’r safon ansawdd a ddymunir ac nid yw’r mannau clinig presennol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Sefydliad Geneteg Feddygol yn ein galluogi i gyflawni hyn yn y tymor hir. Mae Canolfan Iechyd Genomeg Cymru yn cynnig ardaloedd clinig eang, cyfforddus a llachar sydd wedi'u cynllunio'n benodol i ddarparu gofal cleifion rhagorol i'r rhai sydd angen ein gwasanaethau genomeg. Mae Canolfan Iechyd Genomeg Cymru yn ganolbwynt ar gyfer genomeg a fydd bellach yn gartref i ymchwil genomeg barhaus yng Nghymru, sy’n hanfodol i’n galluogi i barhau i wella gofal cleifion.   Beth yw'r Manteision i Gleifion? Mannau clinig pwrpasol o’r radd flaenaf – wedi’u cynllunio gydag ymgynghoriad parhaus a chyfranogiad cleifion ac aelodau’r cyhoedd, gyda’r technolegau a’r adnoddau diweddaraf. Mae'r uwchraddiad hwn yn addo gwell gofal i gleifion a phrofiad cleifion mewn amgylchedd golau, cyfforddus sydd wedi'i gynllunio'n ofalus i helpu i ddiwallu anghenion amrywiol unigolion sy'n derbyn gofal gennym ni. Integreiddio gwasanaethau – bydd adleoli tîm clinigol Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan yn ein rhoi mewn man cydweithredol ochr yn ochr â phartneriaid allweddol eraill o fewn y maes genomeg, a fydd yn meithrin mwy o rannu gwybodaeth, arbenigedd ac integreiddio gwasanaethau. Bydd hyn yn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer arloesi, gan arwain at wasanaethau gwell i gleifion nawr ac yn y dyfodol. Gwell cynaliadwyedd gwasanaethau clinigol - wrth i’r galw ehangach ar wasanaethau clinigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru barhau i newid a datblygu, rydym am sicrhau bod cleifion yng Nghaerdydd a De-ddwyrain Cymru sy’n defnyddio’r gwasanaeth genomeg drwy Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan yn parhau i gael gofod lle rhoddir blaenoriaeth i’w hanghenion. Mae’r gofod clinig newydd yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru yn darparu lleoliad pwrpasol, gan roi sicrwydd i’n cleifion am barhad gofal a gwell tawelwch meddwl. Gwell hygyrchedd - mae'r lleoliad newydd yn cynnig digon o le parcio am ddim ar y safle i'r rhai sy'n mynd i'r safle mewn cerbyd. Ar gyfer cleifion ag anghenion hygyrchedd, mae mannau parcio i'r anabl ar gael, ac mae'r cyfleuster yn hygyrch ar ramp. Yn ein derbynfa a man aros cleifion, mae yna gyfleusterau toiled hygyrch. Mwy o hyblygrwydd i ddiwallu anghenion cleifion - mae argaeledd y clinig newydd yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru yn golygu y gallwn fod yn fwy hyblyg nag erioed wrth ddiwallu anghenion amrywiol ein cleifion wrth i ni barhau i groesawu ffyrdd arloesol o gynnal ein hapwyntiadau, gydag apwyntiadau ffôn a fideo yn cael eu cynnal ochr yn ochr â hyn, lle bo’n briodol.   Os hoffech roi unrhyw adborth annibynnol ar yr wybodaeth a ddarperir yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch adleoli ein gwasanaethau, anfonwch e-bost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. document.getElementById('cloak70efb2768f9b97d62c1d76e74cd48ef2').innerHTML = ''; var prefix = 'ma' + 'il' + 'to'; var path = 'hr' + 'ef' + '='; var addy70efb2768f9b97d62c1d76e74cd48ef2 = 'Genomicspartnershipwales' + '@'; addy70efb2768f9b97d62c1d76e74cd48ef2 = addy70efb2768f9b97d62c1d76e74cd48ef2 + 'wales' + '.' + 'nhs' + '.' + 'uk'; var addy_text70efb2768f9b97d62c1d76e74cd48ef2 = 'Genomicspartnershipwales' + '@' + 'wales' + '.' + 'nhs' + '.' + 'uk';document.getElementById('cloak70efb2768f9b97d62c1d76e74cd48ef2').innerHTML += ''+addy_text70efb2768f9b97d62c1d76e74cd48ef2+''; neu ffoniwch 07812495339, eu gallwch gysylltu â'ch tîm Llais lleol i roi adborth a cheisio cyngor annibynnol Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. document.getElementById('cloak59d6376487bb0efbd9a64fc37213e090').innerHTML = ''; var prefix = 'ma' + 'il' + 'to'; var path = 'hr' + 'ef' + '='; var addy59d6376487bb0efbd9a64fc37213e090 = 'cardiffandvaleenquiries' + '@'; addy59d6376487bb0efbd9a64fc37213e090 = addy59d6376487bb0efbd9a64fc37213e090 + 'llaiscymru' + '.' + 'org'; var addy_text59d6376487bb0efbd9a64fc37213e090 = 'cardiffandvaleenquiries' + '@' + 'llaiscymru' + '.' + 'org';document.getElementById('cloak59d6376487bb0efbd9a64fc37213e090').innerHTML += ''+addy_text59d6376487bb0efbd9a64fc37213e090+''; / 02920 750112   Byddwn hefyd yn cynnal nifer o sesiynau galw heibio, yn bersonol ac ar-lein, a fydd yn agored i bob aelod o'r cyhoedd. Bydd y rhain yn gyfle i gwrdd ag aelodau o dîm clinigol AWMGS a rhannu unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych am y clinig sydd newydd ei leoli.   Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn gwerthuso unrhyw adborth a gawn ar yr wybodaeth a ddarperir yma yn barhaus. Byddwn yn ystyried hyn, yn ogystal â data ar sut mae ein cleifion yn parhau i ddefnyddio ein gwasanaethau yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru ac Ysbyty Athrofaol Cymru, i lywio sut yr ydym yn bwrw ymlaen â gweithredu ein gwasanaethau yn y dyfodol ac yn benodol a yw gwasanaethau’n parhau i redeg yn Ysbyty Athrofaol Cymru.    Am fwy o wybodaeth ewch i'n tudalen Cwestiynau Cyffredin.   Mae amserlen y sesiwn galw heibio fel a ganlyn:   Sesiwn 1) 11 Ionawr - ar-lein  Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma   Sesiwn 2) 15 Ionawr - Wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma   Sesiwn 3) 24 Ionawr - ar-lein Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma     Mae cyfeiriad llawn y clinig sydd newydd ei leoli fel a ganlyn:   Canolfan Iechyd Genomeg Cymru / Wales Genomic Health Centre Parc Busnes Edge Caerdydd Longwood Drive Yr Eglwys Newydd CAERDYDD CF14 7YU   Rydym yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwn yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
    Gwasanaeth Genomeg Seiciatrig Cymru Gyfan   Mae Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, mewn partneriaeth â Chanolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl wedi datblygu Gwasanaeth Genomeg Seiciatrig Cymru Gyfan sy’n wasanaeth trydyddol a gynlluniwyd i ddarparu cwnsela genetig i unigolion a theuluoedd y mae salwch meddwl yn effeithio arnynt, a chefnogi’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’u gofal. Nod y gwasanaeth yw darparu cyngor cynhwysfawr, amlddisgyblaethol, gwybodaeth enetig a mynediad at brofion genetig, lle bo’n briodol, i unigolion y gallai fod pryderon yn eu cylch am ragdueddiad genetig i anhwylderau iechyd meddwl. Rhoi cydraddoldeb iechyd meddwl â gwasanaethau eraill.   Pwy ydym ni?   Darperir Gwasanaeth Genomeg Seiciatrig Cymru Gyfan mewn partneriaeth rhwng gweithwyr proffesiynol ym maes geneteg ac iechyd meddwl. Mae arweinwyr y gwasanaeth wedi’u lleoli yng Nghaerdydd ac ar hyn o bryd maent yn darparu’r clinig geneteg seiciatrig o Adeilad Hadyn Ellis, Cathays. Fodd bynnag, mae hwn yn wasanaeth Cymru gyfan gyda gweithwyr proffesiynol yn mynychu’r tîm amlddisgyblaethol o bob rhan o Gymru. Rydym yn cynnig gwasanaeth pwrpasol ledled Cymru, gan ofyn i gydweithwyr Genetig lleol ein cynorthwyo lle bo angen. Mynychir ein tîm amlddisgyblaethol gan lawer o wahanol weithwyr proffesiynol gan gynnwys; Seiciatryddion, Genetegwyr, Cwnselwyr Genetig, Gwyddonwyr Clinigol, Seicolegwyr, Fferyllwyr, Pediatregwyr, ac Ymchwilwyr.     Cwrdd â’r tîm   Yr hyn a gynigiwn   We provide input for individuals and families who have questions about: Rydym yn darparu mewnbwn i unigolion a theuluoedd sydd â chwestiynau am y canlynol: - Goblygiadau genetig posibl diagnosis o anhwylder niwroddatblygiadol. - Y risgiau genetig posibl iddyn nhw a’u teulu os oes ganddynt hanes teuluol o anhwylderau iechyd meddwl, gan gynnwys cyngor ar risg genetig amenedigol a chyn cenhedlu. - Y risg o ddatblygu anhwylder iechyd meddwl sy’n gysylltiedig ag amrywiad(au) risg genetig niwroseiciatrig hysbys a ganfyddir gan brofion genetig y GIG neu ganfyddiadau ymchwil penodol gan NCMH. - Rydym hefyd yn darparu ymgynghoriadau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ceisio cyngor ynghylch eu cleifion gan ein Tîm Amlddisgyblaethol arbenigol.   I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld ein taflen wybodaeth.     Sut i wneud atgyfeiriad?   Gyrfaoedd  Ffôn: +44 02921834000 E-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. document.getElementById('cloak16b9810e14f63c99d3b72e6decbb6fd6').innerHTML = ''; var prefix = 'ma' + 'il' + 'to'; var path = 'hr' + 'ef' + '='; var addy16b9810e14f63c99d3b72e6decbb6fd6 = 'Awmgs.PsychGenetics.Cav' + '@'; addy16b9810e14f63c99d3b72e6decbb6fd6 = addy16b9810e14f63c99d3b72e6decbb6fd6 + 'wales' + '.' + 'nhs' + '.' + 'uk'; var addy_text16b9810e14f63c99d3b72e6decbb6fd6 = 'Awmgs.PsychGenetics.Cav' + '@' + 'wales' + '.' + 'nhs' + '.' + 'uk';document.getElementById('cloak16b9810e14f63c99d3b72e6decbb6fd6').innerHTML += ''+addy_text16b9810e14f63c99d3b72e6decbb6fd6+'';     Derbynnir atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol Geneteg Glinigol ac iechyd meddwl. Mae gennym feini prawf atgyfeirio y gellir eu cyrchu isod:         Meini Prawf Atgyfeirio     I’r rhai sy'n dymuno trefnu prawf SNP ar gyfer eu claf, mae ffurflen gais labordy seiciatrig i gyd-fynd â’r ffurflen gais labordy porffor arferol, cliciwch isod:         Ffurflen atgyfeirio      Ffurflen Labordy Biws     Taflen Wybodaeth Prawf SNP       Back to top   Rydym yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwn yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
Nod Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Anemias Etifeddol a’r Labordai Haemoglobinopathi sydd wedi’u lleoli ledled Cymru, yw darparu gwasanaeth sgrinio, cwnsela a chymorth i bobl a theuluoedd sydd mewn perygl o gario haemoglobinopathi neu sydd ag anhwylder haemoglobinopathi. Pwy ydym ni? Mae gan Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan ganolfannau clinig yn Ne-ddwyrain, De-orllewin a Gogledd Cymru i ddarparu gwasanaeth teg ar draws Cymru gyfan. Mae ein tîm yn cynnwys Cwnselwyr Genetig, Genetegwyr Clinigol, Gwyddonwyr Clinigol a staff o'r labordai Haemoglobinopathi. Beth rydym yn ei gynnig? - Gwybodaeth am oblygiadau bod yn gludwr ar gyfer amrywiad haemoglobin. - Gwybodaeth am gael eich effeithio gan anhwylder haemoglobin.- Opsiynau sydd ar gael i gyplau sydd â mwy o siawns o gael plentyn ag anhwylder haemoglobin cyn ac yn ystod beichiogrwydd. - Profion genetig lle bo'n briodol.   Beth allai eich apwyntiad ei gynnwys: - Cymryd coeden deulu i nodi pa berthnasau eraill a allai fod yn gludwyr hefyd.- Discussing the type of haemoglobin disorder that it can cause.- Trafod y math o anhwylder haemoglobin y gall ei achosi.- Trafod y siawns y bydd plentyn yn cael ei effeithio.- Trafod yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer cyplau sydd ill dau yn gludwyr. Os teimlwch y byddech yn elwa o apwyntiad, gallwch drafod atgyfeiriad gyda'ch meddyg teulu. Os ydych yn feichiog gallwch drafod atgyfeiriad brys i'r gwasanaeth gyda'ch bydwraig.   Gweler y taflenni gwybodaeth cleifion canlynol isod:      Alpha Thalassaemia    Glucose 6 Phosphate Dehydrogenase(G6PD) Deficiency   Rydym yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwn yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
Mae Labordy Genetig Cymru Gyfan (AWGL) wedi bod yn arweinydd y DU yn darparu gwasanaethau patholeg moleciwlaidd meddygaeth fanwl i gleifion canser ers 2009. Mae'r ymdrech i barhau i wella, safoni a diogelu'r gwasanaeth genomeg a ddarparwn i gleifion at y dyfodol wedi arwain y labordy i lansio'r gwasanaeth CYSGODI sy’n disodli’r panel aml-genyn dilyniannu tiwmor solet cenhedlaeth nesaf presennol (Panel Amlganser), a maes o law bydd yn ymgorffori’r panel dilyniannu aml-genyn cenhedlaeth nesaf haemato-oncoleg presennol (Panel Dilyniannu Myeloid TruSight). Mae’r wybodaeth ganlynol wedi’i dylunio fel cyflwyniad i sut mae’r panel yn gweithio, yr ystod o ganfyddiadau y gellir adrodd arnynt ac amserlen ar gyfer gweithredu’r panel. The following information is designed as an introduction to how the panel works, the range of findings that can be reported and a timeline for implementation of the panel.   Manylion y gwasanaeth   Mae'r gwasanaeth CYSGODI yn defnyddio prawf Mewnbwn Uchel Oncoleg TruSight 500 sy'n hwyluso canfod amrywiadau niwcleotid sengl, amrywiadau rhif copi, amrywiadau adeileddol (ymasiadau genynnau), MSI a TMB o DNA mewn 523 o enynnau ac RNA mewn 55 o enynnau. Mae'r prawf hefyd yn caniatáu sypynnu hyblyg o samplau o 16 i 192 sampl fesul cell llif dilyniannu ar y NovaSeq 6000. Darperir hyblygrwydd pellach gan allu'r prawf i ddilyniannu DNA ac RNA a dynnwyd o feinwe mewnosodedig paraffin sefydlog fformalin (FFPE), mêr esgyrn a samplau gwaed lewcemig. Gellir dod o hyd i'r rhestr lawn o enynnau a gwybodaeth bellach am y prawf yma. .     I gael gwybodaeth fanylach am y gwasanaeth hwn, cyfeiriwch at y daflen wybodaeth gwasanaethyma.   Rydym yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwn yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.