Mae Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan wedi ymrwymo i ddarparu'r lefel uchaf o amddiffyniad ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol y mae'n ei chadw, gan gynnwys data adnabyddadwy cleifion. Mae ein staff, fel rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn cadw at god ymddygiad cyfrinachedd llym yn unol â 6 egwyddor y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), Deddf Diogelu Data 2018 a pholisïau diogelu data a chyfrinachedd y BIP.
Gweler yma am ragor o wybodaeth  am sut rydym yn casglu ac yn storio gwybodaeth cleifion.
Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd  llawn yn ofalus er mwyn deall sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau mewn perthynas â’r hysbysiad preifatrwydd hwn, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data:
  • Trwy e-bost i'r Adran Llywodraethu Gwybodaeth - Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
    • Yn ysgrifenedig at James Webb, Swyddog Diogelu Data, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Llawr 1af Tŷ Trefynwy, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd CF14 4XW.
    • Dros y ffôn ar 02921 844870
Gallwch weld ein Polisi Cadw Data yma.
Mae llawer o sefydliadau yn y GIG fel Ysbytai, Meddygon Teulu, Deintyddion, Optegwyr a Fferyllwyr Cymunedol yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl Cymru.
Nod y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hyn yw darparu gofal o'r ansawdd uchaf i chi. Er mwyn gwneud hyn mae'n rhaid i ni gadw cofnodion am eich iechyd ac unrhyw driniaeth neu ofal a ddarparwn i chi.
Rydym yn cadw eich gwybodaeth ar gyfrifiadur neu mewn cofnod ysgrifenedig, weithiau mae yn y ddau. Mae'r cofnodion hyn yn helpu i arwain a rheoli'r gofal a gewch.

 

Data mewn ymchwil

Astudio tegwch profion genetig yng Nghymru gan ddefnyddio cysylltedd data
Rydym yn bwriadu astudio tegwch a chanlyniadau profion genetig yng Nghymru gan ddefnyddio data profion genetig y GIG. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau profion genynnau a gedwir gan Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS) ar gyfer y cyflyrau canlynol:
- Epilepsi
- Clefyd Huntington
- Syndrom Lynch
- Haemocromatosis
- Syndrom X bregus
- Niwroffibromatosis Math 1
- Canser y Fron Etifeddol (BRCA1 a BRCA2)
Bydd canlyniadau prawf genynnau AWMGS yn cael eu cyflwyno i Fanc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) [http://<https://saildatabank.com/>]. Bydd canlyniadau'r profion genynnau yn cael eu hanonimeiddio (h.y. bydd manylion adnabod yn cael eu tynnu) cyn eu cyflwyno. Felly, ni fydd modd adnabod unigolion o'r data. Bydd hyn yn amddiffyn preifatrwydd yr holl gyfranogwyr. Yng Nghronfa Ddata SAIL bydd canlyniadau'r profion genynnau yn cael eu cysylltu â chofnodion iechyd a gweinyddol eraill a'u defnyddio ar gyfer ymchwil.
Nod yr astudiaeth hon yw edrych ar ddosbarthiad profion genetig ledled Cymru i benderfynu a oes rhanbarthau neu grwpiau penodol sy'n cael trafferth cael mynediad at wasanaethau iechyd genomig. Er enghraifft, a yw statws cyflogaeth, addysg, tai, neu hyfedredd yn y Gymraeg yn dylanwadu ar fynediad at brofion genetig. Mae'r ymchwil hwn hefyd yn gyfle i astudio amlder, achosion ac effeithiau cyflyrau prin yng Nghymru.
Nid ydym yn casglu unrhyw ddata newydd ar gyfer yr astudiaeth hon. Bydd yr holl ganlyniadau a gyflwynir i Fanc Data SAIL wedi'u cynhyrchu gan AWMGS dros y 35 mlynedd diwethaf.
Er mwyn sicrhau bod unigolion a allai gael eu cynnwys yn yr astudiaeth yn cael gwybod, rydym yn cyhoeddi'r prosiect hwn drwy sianeli sy'n debygol o gyrraedd pobl sydd wedi cael prawf genetig yng Nghymru ar gyfer y cyflyrau a restrir. Nid ydym yn ceisio caniatâd ymchwil gan unigolion. Nid yw hyn yn ymarferol gyda'r adnoddau sydd ar gael. Fodd bynnag, cyn cyflwyno cofnodion i SAIL, gall unigolion
ddewis peidio â chynnwys eu canlyniadau. Y dyddiad cau ar gyfer optio allan yw 1 Mehefin 2026. Ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyflwyno i SAIL, ni fydd modd optio allan gan nad ydym yn gallu adnabod cyfranogwyr unigol ym Manc Data SAIL.
Mae Pwyllgor Moeseg Ymchwil Cymru wedi cymeradwyo'r astudiaeth hon ([http://<https://www.hra.nhs.uk/planning-and-improving-research/application-summaries/research-summaries/investigating-equity-and-outcomes-of-genetic-testing-in-wales-v10/>]IRAS ID: 338592) a'r Grŵp Cynghori ar Gyfrinachedd (CAG).

Back to top

 

patient leaflet

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rydym yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwn yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.