Mae gan Wasanaethau Genomeg Meddygol Cymru Gyfan dîm ymroddedig o staff sy'n darparu gwasanaethau genetig canser cynhwysfawr sy'n cynnwys gwasanaethau diagnostig ac ymchwil labordy i ddarparu ystod gynyddol o brofion genetig i lywio a chefnogi diagnosis, monitro a thriniaeth canser i gleifion. Mae Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan hefyd yn darparu gwasanaethau cynghori genetig arbenigol ar gyfer pobl yr amheuir bod ganddynt 'enynnau canser' etifeddol.
Rheolir tîm gwasanaethau canser y labordy gan y Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol Rhian White, FRCPath a dirprwy arweinydd gwasanaethau canser, y Prif Wyddonydd Clinigol Sally Spillane. Mae'r tîm yn gweithio gydag oncolegwyr, haematolegwyr, histopatholegwyr ac ymchwilwyr i sicrhau bod y gwasanaethau'n darparu profion o ansawdd uchel o fewn amserlen er mwyn gwneud penderfyniadau triniaeth.
Ym mis Ebrill 2019, cytunodd Llywodraeth Cymru (LlC) a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) i gynyddu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru i hwyluso ehangu’r profion genetig sydd ar gael ar gyfer malaeneddau tiwmor solet a haematolegol er mwyn helpu i wella gofal cleifion yn barhaus.
Mae Adran Canser y labordy yn cynnwys y timau canlynol:
- Gwasanaethau Canser Teuluol
- Gwasanaethau Tiwmor Solet
- Gwasanaethau Canser Haematolegol
- Gwasanaeth DNA tiwmor sy'n cylchredeg (ctDNA)
Oherwydd y nifer cynyddol o brofion sy’n cael eu darparu gan y Tîm Canser, mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi bod Siân Lewis a Rachel Dodds wedi’u penodi’n Arweinwyr Adran, gan ymuno â Holly Lewis, Helen Roberts a Sheila Palmer-Smith. Rhyngddynt byddant yn darparu'r gwasanaethau genomeg canser canlynol:
Helen RobertsCanser yr Ysgyfaint, Canser y Fron, Sarcomas a Gwasanaeth Nodi Meinwe.
Sian LewisLewcemia Myeloid Cronig, Lewcemia Myeloid Acíwt, Lewcemia Lymffoblastig Acíwt, Syndromau Myelodysplastig, Syndromau Myeloproliferative, Mastocytosis a Lewcemia Celloedd Blewog.
Holly LewisGlioma, Lymffoma, Tiwmorau Gastro-Berfeddol, Melanoma, Canser Thyroid, Myeloma, Lewcemia Lymffosytig Cronig, Cimeriaeth a Macroglobinaemia Waldenstrom.
Sheila Palmer-Smith:Cyflyrau Canser Germline, Canser y Colon a'r Rhefr (profion llinell germ a somatig) a Chanser yr Ofari.
Rachel Dodds:Gwasanaethau ctDNA ar gyfer Canser yr Ysgyfaint a Chanser y Colon a'r Rhefr ynghyd â datblygu gwasanaethau dilyniannu cenhedlaeth nesaf ar gyfer canserau.
Gwasanaeth Canser Teuluol
Mae'r tîm Canser Teuluol yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaethau Canser Geneteg Glinigol er mwyn darparu ystod o brofion genetig germline ar gyfer genynnau etifeddol sy'n gysylltiedig â datblygiad canserau. Mae’r Gwasanaeth Canser Teuluol yn darparu ystod eang o wasanaethau arbenigol i gleifion â’r canserau canlynol:
- Canser y fron
- Canser yr ofari
- Canser y coluddyn
- Niwroffibromatosis math 1
- Sglerosis Twberus
- Syndrom Li Fraumeni.
Mae'r profion hyn ar gyfer newidiadau germline (newidiadau i'r DNA y ganwyd cleifion â nhw) ac felly fe'u cynhelir ar samplau gwaed.
Gwasanaeth Tiwmor Solet
Mae'r tîm Tiwmor Solet yn nodi newidiadau somatig allweddol (heb eu hetifeddu) mewn genynnau a geir mewn tiwmorau solet cleifion sydd â thystiolaeth gref i'w defnyddio mewn meddygaeth fanwl, yn ogystal â darparu gwybodaeth ddiagnostig a phrognostig gefnogol. Gellir cynnal y profion somatig hyn ar fiopsïau meinwe o'r tiwmor solet, samplau croen (ar gyfer melanoma) neu ar waed trwy echdynnu DNA tiwmor sy'n cylchredeg.
Gan weithio gyda phatholegwyr, oncolegwyr a llawfeddygon mae'r tîm yn profi tiwmorau gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau gan gynnwys fflworoleuedd hybrideiddio yn y fan a'r lle (FISH) a phanel aml-genyn i ddarparu dadansoddiad moleciwlaidd ar ystod o farcwyr genetig trwy un prawf.
Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaeth Tiwmor Solet yn darparu profion ar gyfer y canlynol:
- Canser y colon a'r rhefr
- Canser yr ysgyfaint nad yw'n gelloedd bach
- Canser y stumog a'r perfedd
- Melanoma
- Glioma
- Sarcoma
- Canser y fron
- Colangiocarcinoma
Cynlluniwyd y profion hyn i chwilio am newidiadau somatig o fewn y tiwmor ac felly'n cael eu cynnal ar samplau tiwmor.
Mae’r labordy’n buddsoddi mewn gwelliant parhaus gyda’r nod o ddatblygu ystod ehangach o wasanaethau sy’n cwmpasu ystod gynyddol o farcwyr genetig, gan arwain at gynnydd yn nifer y cleifion sy’n gymwys i gael profion genetig yng Nghymru. Bydd gwella'r gwasanaeth yn galluogi mwy o bobl i gael mynediad at feddyginiaeth fanwl a dewisiadau treialon clinigol sy'n targedu cyfansoddiad genetig eu tiwmor unigol, gan gynnig dewis ehangach o opsiynau triniaeth.
Mae'r Gwasanaeth Tiwmor Solet hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ymchwil i ddarparu profion genetig ar gyfer nifer o dreialon clinigol.
Gwasanaeth Canser Haematolegol
Mae'r tîm Canser Haematolegol yn nodi newidiadau somatig allweddol (nad ydynt wedi'u hetifeddu) mewn genynnau a geir yng ngwaed cleifion er mwyn cefnogi diagnosis, prognosis a thriniaeth pobl â malaenedd haematolegol (lewcemia a lymffoma). Gan weithio gyda Haematolegwyr i ddiwallu anghenion y cleifion mae’r Gwasanaeth Canser Haematolegol yn darparu profion ar gyfer y canlynol:
- Lewcemia Myeloid Cronig
- Lewcemia Myeloid Acíwt
- Lewcemia Lymffoblastig Acíwt
- Lewcemia Lymffoblastig Cronig
- Syndromau Myelodysplastig
- Neoplasmau myeloprolifferatif
- Myeloma
- Lymffoma
- Monitro Trawsblannu Mêr Esgyrn
Mae'r profion hyn ar gyfer newidiadau somatig ac yn cael eu cynnal ar samplau gwaed, mêr esgyrn neu nodau lymff. Cynhelir profion adeg diagnosis ac yn ystod cwrs clefyd y claf i fonitro ymateb i driniaeth gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau, gan gynnwys Dilyniannu'r Genhedlaeth Nesaf. Mae'r profion hyn yn cynorthwyo clinigwyr i sicrhau bod y claf ar y llwybr triniaeth cywir o ran ei fod yn glinigol effeithiol ac yn lleihau niwed i gleifion.
25/09/2023 - Oherwydd mater technegol, mae ychydig o oedi (2-3 diwrnod) cyn rhyddhau adroddiadau ar gyfer gwasanaethau haemato-oncoleg. Bydd busnes fel arfer yn ailddechrau o fewn y pythefnos nesaf. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.
Gwasanaeth DNA tiwmor sy'n cylchredeg (ctDNA)
Mae'r Gwasanaeth Tiwmor Solet hefyd yn cynnig profion genetig ar DNA tiwmor sy'n cylchredeg (ctDNA) a geir yn y llif gwaed. DNA yw ctDNA sydd wedi tarddu o gelloedd canseraidd. Mae gwasanaethau ctDNA ar hyn o bryd yn cynnwys profion am dreigladau mewn canser yr ysgyfaint a chanser y colon a’r rhefr gan ddefnyddio PCR digidol defnyn (ddPCR) lle nad oes biopsi ar gael.
Mae'r gwasanaeth hwn yn ehangu'n gyflym a bydd yn datblygu gwasanaethau ctDNA newydd gan ddefnyddio dilyniannu cenhedlaeth nesaf a thechnolegau amgen.