Copy of Untitled 1

Ym maes geneteg, gellir defnyddio'r termau meddygaeth 'fanwl', 'haenedig' neu 'genomeg' yn gyfnewidiol. Yn y bôn mae'r termau hyn yn golygu ein bod yn dechrau gallu personoli triniaeth claf yn seiliedig ar eu gwybodaeth genetig unigol eu hunain. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd cydnabyddiaeth ryngwladol bod gan y technolegau hyn y potensial i chwyldroi meddygaeth ac iechyd y cyhoedd. Wrth i'n dealltwriaeth o'n gwybodaeth enetig wella, bydd ein gallu i deilwra opsiynau triniaeth i unigolyn penodol hefyd yn gwella.

 


 
I roi rhai enghreifftiau i chi, efallai y bydd eich gwybodaeth enetig yn cael ei defnyddio i wneud y canlynol:

 

Dewis triniaeth benodol neu fonitro iechyd ar gyfer cyflwr meddygol.
Mewn rhai mathau o ganser, mae amrywiadau genetig a geir o fewn y tiwmor yn helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i benderfynu pa gyffuriau fydd orau i drin y canser penodol hwnnw. Hefyd, ar gyfer cleifion â chyflyrau etifeddol penodol, efallai y bydd sgrinio iechyd yn cael ei addasu'n benodol ar gyfer y newid genetig a geir yn y teulu.

 

Deall a yw claf mewn perygl o sgil-effeithiau o ganlyniad i gyffur neu driniaeth.
Mae rhai cleifion ag amrywiadau genetig penodol yn fwy tebygol o gael sgil-effeithiau o rai meddyginiaethau a ddefnyddir ar gyfer eu triniaeth. Mewn rhai achosion gall y sgil-effeithiau fod yn ddifrifol iawn. Trwy brofi am yr amrywiadau hyn cyn y driniaeth, gallai'r rhai sydd â risg uchel o'r sgil-effeithiau hyn elwa o ddos is o'r cyffur neu hyd yn oed math gwahanol o feddyginiaeth. Felly gall y math hwn o brofi genetig wella diogelwch cleifion.

 


 
Yng Nghymru, mae datblygiad meddygaeth fanwl yn cael ei lywio gan y Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl..
 
Mae’r Strategaeth yn amlinellu’r camau gweithredu cychwynnol allweddol, ac fel rhan o gynllun 5-10 mlynedd bydd yn: WG logo Dragon
Datblygu gwasanaethau genomeg meddygol ac iechyd y cyhoedd a gydnabyddir yn rhyngwladol yng Nghymru – sy’n arloesol, yn ymatebol ac wedi’u cysylltu’n dda â’r prif fentrau geneteg a genomeg sy’n esblygu ym mhedwar ban byd.
Datblygu ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn genomeg a llwyfannau rhagorol ar gyfer meddygaeth fanwl, gydag arweinyddiaeth a chydlyniad Cymru gyfan a chysylltiadau cryf â geneteg glinigol.
Bod yn allblyg, a mynd ati i chwilio am bartneriaethau a all gryfhau gwasanaethau ac ymchwil genomeg a meddygaeth fanwl yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y partneriaethau hynny a fydd yn dod â’r manteision mwyaf i gleifion.
Datblygu gweithlu'r GIG a'r gweithlu ymchwil yng Nghymru, i gydnabod y bydd y buddsoddiad hwn yn cael yr effaith fwyaf ar ein gallu i wireddu potensial genomeg a meddygaeth fanwl er budd cleifion

 


 
Back to top