i'w ddarllen yn Gymraeg

 

Cwestiynau cyffredin

Pam ydych chi wedi symud?
Rydym wedi symud i'n cyfleuster newydd Canolfan Iechyd Genomeg Cymru (CIGC) oherwydd nad yw'r cyfleusterau presennol bellach yn addas i'r diben. Wrth i’r galw am y gwasanaethau genomeg barhau i gynyddu, rydym am fod mewn sefyllfa lle gallwn barhau i ddarparu gofal o’r ansawdd uchaf, mewn cyfleusterau addas, ar gyfer y nifer cynyddol o’n cleifion sydd angen ein gwasanaethau.

 

Sut mae hyn o fudd i gleifion?
Mae’r cyfleuster newydd wedi’i gynllunio’n benodol gyda’n cleifion mewn golwg, ac mae’n cynnwys y technolegau a’r adnoddau diweddaraf, gyda’r nod o wella gofal cleifion nawr ac yn y dyfodol. Mae’r gofod clinig newydd yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru yn darparu lleoliad lle gall cleifion deimlo’n dawel eu meddwl y gallwn barhau i ddiwallu eu hanghenion mewn man pwrpasol, gan ganiatáu ar gyfer gwell parhad gofal a gwell tawelwch meddwl.

 

A fydd yna ddau leoliad yng Nghaerdydd bob amser?
Bydd gwasanaeth clinigol Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan wedi'i leoli yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru ac mae'r cyfleusterau cleifion yma wedi'u cynllunio gyda chymorth gan gleifion a theuluoedd Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan i ddarparu'r profiad a'r canlyniad gorau posibl i gleifion. Felly, bydd y cyfleusterau gwasanaeth geneteg pwrpasol presennol ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru yn cael eu cau yn y pen draw gan nad ydynt bellach yn bodloni gofynion ein gwasanaethau.

 

Er ein bod yn gobeithio y bydd manteision safle Canolfan Iechyd Genomeg Cymru i gleifion yn ddeniadol iawn, rydym hefyd yn deall y gallai mynediad i’r safle newydd fod yn heriol i unigolion. Felly, byddwn yn parhau i gynnig dewis i gleifion a theuluoedd y byddai’n well ganddynt gael mynediad at wasanaethau yn agos at safle Ysbyty Athrofaol Cymru ac sy’n hapus i drafod yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi, drwy fynd i’r afael ag anghenion unigolion, fesul achos.
Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru gan y gallwn gynnig cyfleusterau clinig pediatrig arbenigol yn y lleoliad hwn

 

Hygyrchedd/Cyfleusterau Safle

 

Ble mae'r safle newydd?
Mae’r safle wedi’i leoli ym Mharc Busnes Cardiff Edge, Longwood Drive, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 7YU – mae’r safle yn agos at gylchfan Coryton sydd ar yr A470 a chyffordd 32 traffordd yr M4

 

Oes lle parcio? Oes rhaid i mi dalu?
Oes, mae digon o leoedd parcio pwrpasol ar gyfer cleifion, ymwelwyr a staff yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru, gan gynnwys mannau parcio hygyrch. Nid oes rhaid i chi dalu i barcio.

 

A oes lle parcio hygyrch?
Oes, mae nifer o leoedd parcio hygyrch ar gael, gyda chilfachau wedi'u nodi'n glir a ramp hygyrchedd i'r adeilad

 

Beth yw'r opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus?
Bws
Mae gwasanaeth bws 132 Caerdydd – Maerdy yn rhedeg yn rheolaidd o ganol dinas Caerdydd i Westy’r Village.
Yr arhosfan bws agosaf gyda gwasanaethau rheolaidd yw Gwesty'r Village, taith gerdded 10 i 20 munud o Ganolfan Iechyd Genomeg Cymru. Fel arall, gallwch ddod oddi ar y bws wrth Ysgol Gynradd Tongwynlais a chael mynediad i'r safle ar hyd Taith Taf.
 
Trên
Y gorsafoedd trên agosaf yw Radur a Coryton.
Gwasanaethir Gorsaf Radur gan wasanaethau bob hanner awr i'r de o'r Rhondda a Bro Merthyr, ac i'r gogledd o'r Barri a Chaerdydd. Mae'r orsaf tua 15 munud ar droed o Ganolfan Iechyd Genomeg Cymru.
Gwasanaethir Gorsaf Coryton gan wasanaethau bob hanner awr o Orsaf Ganolog Caerdydd a Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd. Mae'r orsaf tua 20 munud ar droed o Ganolfan Iechyd Genomeg Cymru.
 
Sut ydw i'n dod o hyd i'r clinig?
Mae’r clinig yn daith gerdded fer o’r maes parcio ac mae llwybr hygyrch o’r maes parcio i’r safle.
Ar y map isod, mae'r ardal a amlinellir mewn melyn yn nodi ein hardal barcio. Mae’r llinell ddotiog ddu yn dangos y llwybr i ac o’r ffordd fynediad i’n maes parcio drwy’r brif giât ddiogelwch. Mae’r llinell ddotiog goch yn dangos y llwybr cerdded o’n maes parcio i’r adeilad.

 CIGC carpark map

Bydd map hefyd yn cael ei gynnwys yn eich llythyr apwyntiad, os cewch eich gwahodd i fynychu Canolfan Iechyd Genomeg Cymru.

 

A oes gan y safle fynediad i'r anabl?
Oes, mae mynediad i'r anabl i'r safle. Mae llwybr hygyrch o'r maes parcio i'r safle ac mae ein holl glinigau cleifion wedi'u lleoli ar lawr gwaelod yr adeilad.

 

A oes toiledau ar y safle?
Oes, mae toiledau ar y safle, gan gynnwys toiledau hygyrch a chyfleusterau newid cewynnau yn y dderbynfa.

 

A oes unrhyw gyfleusterau arlwyo ar y safle?
Nid oes unrhyw gyfleusterau arlwyo ar y safle ar hyn o bryd. Mae'r cyfleusterau arlwyo agosaf tua 15 munud ar droed neu 4 munud mewn car. Y rhain yw ASDA, Starbucks a McDonalds. Bydd dŵr yfed yn cael ei ddarparu yn ystafell y clinig.

 

A fydd gwybodaeth/arwyddion ar gael yn Gymraeg?
Bydd, bydd gwybodaeth ac arwyddion ar gael yn Gymraeg.

 

Gwybodaeth am Apwyntiadau

Pwy sy'n penderfynu pa fath o apwyntiad sydd gennyf?
Byddwch chi a'ch meddyg genetig yn trafod pa fformat apwyntiad sydd fwyaf addas yn seiliedig ar eich amgylchiadau a'ch gofynion. Fodd bynnag, os bydd angen i'ch meddyg eich gweld yn bersonol, er enghraifft, ar gyfer archwiliad, gofynnir i chi ddod i'ch apwyntiad yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru, ac mae apwyntiadau Ysbyty Athrofaol Cymru yn parhau i fod ar gael i'w gwneud drwy eithriad.

 

Beth ddylwn i ei wneud os nad wyf am i'm hapwyntiad gael ei gynnal yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru?
Os ydych wedi cael gwahoddiad i fynychu apwyntiad yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru ac yn teimlo na allwch fynychu, cysylltwch â thîm apwyntiadau Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan a byddant yn cadarnhau a oes unrhyw ddewisiadau amgen addas ar gael.

 

Sut gallaf gael apwyntiad yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru? Sut byddaf yn cael fy atgyfeirio ar gyfer fy apwyntiad?
Os ydych yn gymwys ar gyfer apwyntiad genetig Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan ac yr hoffech i hwn gael ei gynnal yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru, gallwch roi gwybod i'ch meddyg atgyfeirio a gallant roi gwybod i chi a yw hyn yn bosibl. Fel arall, gallwch wneud y cais hwn drwy dîm apwyntiadau Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan os ydych eisoes wedi derbyn gwahoddiad am apwyntiad yn rhywle arall, a byddant yn cadarnhau a yw hyn yn bosibl.

 

Pa glinigau/apwyntiadau sy'n cael eu cynnal yn y lleoliad newydd?
Cynhelir y clinigau wyneb yn wyneb canlynol yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru:
  • Clinigau geneteg cyffredinol
  • Clinigau geneteg canser
  • Clinigau geneteg cynenedigol
  • Clinigau niwrogeneteg

 

A allaf gysylltu â'r lleoliad yn uniongyrchol ynglŷn â'm hapwyntiad?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich apwyntiad, ffoniwch y rhif ar eich llythyr apwyntiad wedyn byddant yn gallu rhoi gwybod i chi am eich apwyntiad gyda Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan boed yn Ysbyty Athrofaol Cymru neu Ganolfan Iechyd Genomeg Cymru.

 

Sut ydw i'n cofrestru ar gyfer fy apwyntiad?
Pan fyddwch yn cyrraedd y dderbynfa, rhowch wybod i’r derbynnydd eich bod wedi cyrraedd ar gyfer eich apwyntiad a byddant yn eich cofrestru.

 

Beth ddylwn i ei wneud os bydd angen i mi newid fy apwyntiad?
Os oes angen i chi wneud newidiadau i'ch apwyntiad, ffoniwch y rhif ar eich llythyr apwyntiad a bydd aelod o'r tîm yn eich cynorthwyo.

 

A oes angen i mi gael fy apwyntiad wyneb yn wyneb? A allaf ei gynnal yn rhithwir?
Mae angen apwyntiad wyneb yn wyneb ar lawer o'r cleifion a gyfeirir at Ganolfan Genomeg Feddygol Cymru Gyfan oherwydd efallai y bydd angen i'r meddyg eich archwilio chi neu'ch plentyn. Os yw apwyntiad rhithwir yn opsiwn, cynigir hyn i chi pan fydd eich apwyntiad yn cael ei drefnu. Os ydych wedi cael cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb ond y byddai'n well gennych apwyntiad rhithwir, ffoniwch dîm apwyntiadau Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan a byddant yn rhoi gwybod i chi os yw hyn yn bosibl.

 

Sut beth fydd fy apwyntiad yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru?
Fel gyda phob un o'n lleoliadau apwyntiad, bydd meddyg geneteg neu gynghorydd genetig yn gofyn cwestiynau perthnasol i chi am eich hanes personol a theuluol. Efallai y bydd angen iddynt wedyn eich archwilio a thynnu ffotograffau. Ar y pwynt hwn, efallai y bydd angen i chi gael prawf genetig.
 
A fydd fy ngofal dilynol yn wahanol o gwbl os bydd gennyf apwyntiad yn y cyfleuster newydd?
Na, bydd unrhyw ofal dilynol a gewch yr un fath â'r hyn y byddech yn ei dderbyn yn unrhyw un o'n clinigau eraill, neu yn dilyn apwyntiad rhithwir.

 

Sut byddaf yn cael fy nghanlyniadau? Pryd byddaf yn eu cael? 
Bydd yr unigolyn sy'n trefnu'r prawf yn trafod sut yr hoffech chi dderbyn eich canlyniadau. Bydd gennych bob amser yr opsiwn o gael apwyntiad dilynol yn ddiweddarach i drafod y canlyniadau yn fanylach, os dymunwch. Mae pryd y cewch eich canlyniadau yn dibynnu ar y cyflwr a'r math o brawf a gawsoch. Bydd yr unigolyn sy'n trefnu'r prawf yn rhoi amserlen i chi o ran pryd y gellir disgwyl eich canlyniadau.
 
Rwy'n poeni am y canlyniadau, beth ddylwn i ei wneud?
Gallwch drafod hyn gyda'r clinigwr a drefnodd y prawf. Dylai rhif cyswllt fod wedi cael ei roi i chi yn y clinig a/neu ei gynnwys yn eich llythyr.