IMG 1
 
Gwasanaeth Genomeg Seiciatrig Cymru Gyfan
 
Mae Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, mewn partneriaeth â Chanolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl wedi datblygu Gwasanaeth Genomeg Seiciatrig Cymru Gyfan sy’n wasanaeth trydyddol a gynlluniwyd i ddarparu cwnsela genetig i unigolion a theuluoedd y mae salwch meddwl yn effeithio arnynt, a chefnogi’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’u gofal. Nod y gwasanaeth yw darparu cyngor cynhwysfawr, amlddisgyblaethol, gwybodaeth enetig a mynediad at brofion genetig, lle bo’n briodol, i unigolion y gallai fod pryderon yn eu cylch am ragdueddiad genetig i anhwylderau iechyd meddwl. Rhoi cydraddoldeb iechyd meddwl â gwasanaethau eraill.

 


Pwy ydym ni?
 
Darperir Gwasanaeth Genomeg Seiciatrig Cymru Gyfan mewn partneriaeth rhwng gweithwyr proffesiynol ym maes geneteg ac iechyd meddwl. Mae arweinwyr y gwasanaeth wedi’u lleoli yng Nghaerdydd ac ar hyn o bryd maent yn darparu’r clinig geneteg seiciatrig o Adeilad Hadyn Ellis, Cathays. Fodd bynnag, mae hwn yn wasanaeth Cymru gyfan gyda gweithwyr proffesiynol yn mynychu’r tîm amlddisgyblaethol o bob rhan o Gymru. Rydym yn cynnig gwasanaeth pwrpasol ledled Cymru, gan ofyn i gydweithwyr Genetig lleol ein cynorthwyo lle bo angen. Mynychir ein tîm amlddisgyblaethol gan lawer o wahanol weithwyr proffesiynol gan gynnwys; Seiciatryddion, Genetegwyr, Cwnselwyr Genetig, Gwyddonwyr Clinigol, Seicolegwyr, Fferyllwyr, Pediatregwyr, ac Ymchwilwyr.
 

 
Cwrdd â’r tîm
 psychnew


Yr hyn a gynigiwn

 

We provide input for individuals and families who have questions about:
Rydym yn darparu mewnbwn i unigolion a theuluoedd sydd â chwestiynau am y canlynol:
- Goblygiadau genetig posibl diagnosis o anhwylder niwroddatblygiadol.
- Y risgiau genetig posibl iddyn nhw a’u teulu os oes ganddynt hanes teuluol o anhwylderau iechyd meddwl, gan gynnwys cyngor ar risg genetig amenedigol a chyn cenhedlu.
- Y risg o ddatblygu anhwylder iechyd meddwl sy’n gysylltiedig ag amrywiad(au) risg genetig niwroseiciatrig hysbys a ganfyddir gan brofion genetig y GIG neu ganfyddiadau ymchwil penodol gan NCMH.
- Rydym hefyd yn darparu ymgynghoriadau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ceisio cyngor ynghylch eu cleifion gan ein Tîm Amlddisgyblaethol arbenigol.
 
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld ein taflen wybodaeth.

 


 
Sut i wneud atgyfeiriad?
Referral 1

 

Gyrfaoedd
 Ffôn: +44 02921834000
E-bostMae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. 
 
Derbynnir atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol Geneteg Glinigol ac iechyd meddwl. Mae gennym feini prawf atgyfeirio y gellir eu cyrchu isod:

 

 Info1
    Meini Prawf Atgyfeirio  
 
I’r rhai sy'n dymuno trefnu prawf SNP ar gyfer eu claf, mae ffurflen gais labordy seiciatrig i gyd-fynd â’r ffurflen gais labordy porffor arferol, cliciwch isod:

 

Info1 
    Ffurflen atgyfeirio
Info1
     Ffurflen Labordy Biws
Info1
    Taflen Wybodaeth Prawf SNP

    


 Back to top

 

Rydym yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwn yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.