Nod Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Anemias Etifeddol a’r Labordai Haemoglobinopathi sydd wedi’u lleoli ledled Cymru, yw darparu gwasanaeth sgrinio, cwnsela a chymorth i bobl a theuluoedd sydd mewn perygl o gario haemoglobinopathi neu sydd ag anhwylder haemoglobinopathi.
Pwy ydym ni?
Mae gan Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan ganolfannau clinig yn Ne-ddwyrain, De-orllewin a Gogledd Cymru i ddarparu gwasanaeth teg ar draws Cymru gyfan. Mae ein tîm yn cynnwys Cwnselwyr Genetig, Genetegwyr Clinigol, Gwyddonwyr Clinigol a staff o'r labordai Haemoglobinopathi.
Beth rydym yn ei gynnig?
- Gwybodaeth am oblygiadau bod yn gludwr ar gyfer amrywiad haemoglobin.
- Gwybodaeth am gael eich effeithio gan anhwylder haemoglobin.
- Opsiynau sydd ar gael i gyplau sydd â mwy o siawns o gael plentyn ag anhwylder haemoglobin cyn ac yn ystod beichiogrwydd.
- Profion genetig lle bo'n briodol.
Beth allai eich apwyntiad ei gynnwys:
- Cymryd coeden deulu i nodi pa berthnasau eraill a allai fod yn gludwyr hefyd.
- Discussing the type of haemoglobin disorder that it can cause.
- Trafod y math o anhwylder haemoglobin y gall ei achosi.
- Trafod y siawns y bydd plentyn yn cael ei effeithio.
- Trafod yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer cyplau sydd ill dau yn gludwyr.
Os teimlwch y byddech yn elwa o apwyntiad, gallwch drafod atgyfeiriad gyda'ch meddyg teulu. Os ydych yn feichiog gallwch drafod atgyfeiriad brys i'r gwasanaeth gyda'ch bydwraig.
Gweler y taflenni gwybodaeth cleifion canlynol isod:
Alpha Thalassaemia |
|
Glucose 6 Phosphate Dehydrogenase(G6PD) Deficiency |