Fel rhan o’n system rheoli ansawdd ac er mwyn asesu anghenion a gofynion ein cwsmeriaid, rydym yn croesawu unrhyw adborth ar ein gwasanaeth.
I gysylltu ag aelod o’n tîm ansawdd, anfonwch e-bost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu gallwch bostio eich adborth gan ddefnyddio cyfeiriad post y labordy uchod.
Fel gwasanaeth lletyol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gellir codi pryderon neu gwynion am eich profiad gyda Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan hefyd drwy’r adran bryderon.
Mae gan y labordy broses rheoli digwyddiadau wedi'i dogfennu sy'n ceisio cywiro problemau a nodwyd a chymryd y camau angenrheidiol i atal digwyddiadau yn y dyfodol.
Rydym yn gweithredu diwylliant “agored"; derbynnir yr arfer gorau bod monitro digwyddiadau'n barhaus yn hwyluso dysgu parhaus a gwella gwasanaethau.
Mae hyn yn rhoi sicrwydd i'n defnyddwyr gwasanaeth bod systemau'n addas i'r diben a bod canllawiau proffesiynol yn cael eu dilyn i sicrhau canlyniad cyson o ansawdd uchel.
Mae pennaeth y labordy neu'r gwyddonwyr yn hapus i roi cyngor ar faterion gwyddonol neu dechnegol a thrafod argaeledd profion a chynnydd samplau unigol gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn unig.
Ar gyfer cwnsela a materion clinigol, neu ymholiadau gan gleifion, cysylltwch â’r adran Geneteg Glinigol ar 44(0)2921842577 neu ewch i'r tudalennau geneteg glinigol ar y wefan.