Gwariodd GIG Cymru £1.2 biliwn ar feddyginiaethau yn 2019-20. Er bod eu manteision yn sylweddol, o ran atal, rheoli a gwella clefydau, gwella ansawdd bywyd cleifion a'u cyfleoedd i oroesi, nid yw pob meddyginiaeth yn effeithiol drwy'r amser. Gall meddyginiaethau achosi sgil-effeithiau hefyd (adweithiau niweidiol i gyffuriau) a all fod yn ddifrifol ac yn gostus i'w rheoli. Gellir defnyddio gwybodaeth am amrywiadau genetig mewn unigolyn i ragweld y tebygolrwydd y bydd meddyginiaeth benodol yn effeithiol neu'n achosi niwed anfwriadol trwy adwaith andwyol. Ffarmacogenomeg yw'r astudiaeth o sut mae amrywiad genetig rhwng unigolion yn effeithio ar eu hymateb i feddyginiaethau. Mae'r defnydd o brofion ffarmacogenomeg mewn ymarfer clinigol yn llywio'r dewis a'r dos o feddyginiaethau. Mae hyn yn sicrhau bod unigolion yn cael y driniaeth fwyaf effeithiol, tra'n lleihau'r risg o adweithiau niweidiol i gyffuriau.

 


  Ffarmacogenomeg ar waith

Yn 2020, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddarparu sgrinio DPYD i bob claf canser sy’n cael mathau penodol o gemotherapi er mwyn nodi eu risg o sgil-effeithiau difrifol a helpu i atal y rhain rhag digwydd. Amcangyfrifir y gall 10% o gleifion sy’n derbyn
cyffuriau fflworopyrimidin, a ddefnyddir yn helaeth ar gyfer trin canser, ddatblygu sgil-effeithiau difrifol, sydd weithiau'n bygwth bywyd. Gall amrywiadau genetig mewn DPYD, y genyn sy'n amgodio ar gyfer yr ensym sy'n helpu i fetaboleiddio (chwalu) y fflwooropyrimidinau, achosi'r gwenwyneddau hyn. Gall lefelau isel o'r ensym DPD - a ragwelir gan y prawf genetig - arwain at groniad o'r cyffuriau cemotherapi hyn, gan wneud y sgil-effeithiau yn fwy difrifol ac weithiau'n angheuol.
  

 

  


 Beth yw'r NPGG?  

Sefydlwyd y Grŵp Ffarmacogenomeg Cenedlaethol (NPGG) yn 2022 yn dilyn cymeradwyo papur gwyn o’r enw Pharmacogenetics in Wales, gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a bwrdd rhaglen Partneriaeth Genomeg Cymru (GPW).Disgrifiodd y papur yr uchelgais y dylai GIG Cymru sefydlu gwasanaeth ffarmacogenomeg cenedlaethol, sy'n cyd-fynd â gwasanaeth Llywodraeth Cymru Cynllun Cyflawni Genomeg i Gymru.
Genomics Delivery Plan for Wales. Nod yr NPGG yw sicrhau bod yna ddull cenedlaethol amlddisgyblaethol, cydgysylltiedig gyda mewnbwn clinigol diffiniedig i ddatblygu a chyflwyno gwasanaethau ffarmacogenomeg yng Nghymru. Mae aelodaeth a chylch gorchwyl yr NPGG ar gael yma. 

 

  

 

 Back to top