Genes and Chromosones

man 2125123 1920

Genynnau yw'r cyfarwyddiadau etifeddol sy'n gyfrifol am reoli ein swyddogaethau corfforol arferol a chynnal ein hiechyd. Maen nhw'n pennu sut rydyn ni'n tyfu ac yn datblygu. Mae nodweddion fel lliw ein llygaid yn cael eu rheoli gan ein genynnau. Mae'r rhan fwyaf o'r celloedd yn ein cyrff yn cynnwys set gyflawn o enynnau, a elwir hefyd yn genom. Mae tua 20,000 o enynnau yn y genom dynol. Ein genom yw'r 'glasbrint' sy'n ein gwneud ni'n unigryw.
Cromosomau yw'r strwythurau y mae ein celloedd yn eu defnyddio i storio ein genynnau. Mae gan bob cell set o gromosomau ac mae pob genyn wedi'i leoli mewn lleoliad penodol ar un o'r cromosomau. Fel arfer mae gan bob cell 46 cromosom a daw'r rhain mewn parau. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm o 23 pâr o gromosomau. Rydym yn etifeddu un copi o bob pâr gan bob un o'n rhieni. Felly fel arfer mae plentyn yn etifeddu hanner ei gromosomau gan ei fam a hanner gan ei dad.
Gall cyflyrau genetig ddigwydd pan fydd newid sy'n atal y neges genetig gywir rhag cael ei chyfleu i'r corff. Mae yna lawer o wahanol fathau o newid genetig. Gall newidiadau genetig mawr effeithio ar gromosom cyfan neu ran o gromosom. Gall newidiadau eraill fod yn fach iawn ac effeithio ar un genyn yn unig. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cyfeirio at y newidiadau hyn fel amrywiadau. Weithiau mae amrywiad yn cael ei etifeddu gan fam neu dad. Ond nid yw pob amrywiad genetig yn cael ei etifeddu ac ni ellir trosglwyddo rhai amrywiadau genetig.

 


 
Beth yw prawf genetig?
 
Prawf genetig yw pan fydd sampl yn cael ei gymryd gan glaf ac yn cael ei ddadansoddi i weld a ellir dod o hyd i unrhyw amrywiadau genetig. Fe'i cynhelir yn aml ar sampl gwaed. Ond efallai y bydd samplau meinwe eraill hefyd yn cael eu profi os oes angen. Yna gellir cael trafodaeth fanwl am oblygiadau canlyniad y prawf i'r claf a'i berthnasau.

 

Mae dau brif reswm dros gynnal profion genetig:

 

Profi am gyflyrau etifeddol
Mae hwn yn chwilio am amrywiadau sy'n achosi cyflwr penodol ac a allai gael eu trosglwyddo yn y teulu.

 

Profion tiwmor mewn cleifion â chanser
Mae tiwmorau canser yn dyfiannau sy'n digwydd pan fydd celloedd yn gallu tyfu allan o reolaeth. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod y celloedd wedi cael newidiadau genetig sydd wedi eu galluogi i dyfu a lluosi mewn ffordd afreolus. Wrth i ni heneiddio a thyfu, mae'r mathau hyn o newidiadau yn gyffredin. Gwyddom hefyd y gall rhai ffactorau amgylcheddol hefyd arwain at y mathau hyn o newidiadau, er enghraifft ysmygu neu olau uwchfioled. Ond mae ein celloedd yn glyfar iawn ac yn gallu adnabod ac, yn aml, trwsio'r newidiadau hyn os oes angen.
Fodd bynnag, os bydd y newidiadau hyn yn digwydd mewn rhan bwysig o'r cod genetig, fel genyn sy'n rheoli twf a rhaniad celloedd, gallant ddatblygu'n gell canser. Dros amser, mae canserau'n datblygu llawer o'r newidiadau genetig hyn
Gall profi tiwmor am newidiadau genetig fod yn ddefnyddiol weithiau. Gelwir hyn yn brawf somatig. Mae hyn oherwydd ein bod yn gwybod y gall genynnau penodol neu hyd yn oed amrywiadau genetig penodol helpu i lywio diagnosis, prognosis a nodi triniaethau penodol ar gyfer y claf unigol hwnnw. Gelwir hyn yn Feddyginiaeth Fanwl.
Fel arfer trefnir profion somatig gan dîm oncoleg y claf. Nid yw newidiadau sydd ond yn bresennol yn y tiwmor yn cael eu trosglwyddo yn y teulu. Mae hyn yn golygu nad oes angen cyfeirio cleifion â'r newidiadau tiwmor hyn i Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan fel arfer, oni bai fod rheswm arall iddynt gael eu gweld.

 


 
 
I ddysgu mwy am geneteg, efallai y bydd y gwefannau canlynol yn ddefnyddiol i chi:
 
genome project in wales
Mae'r Prosiect 100,000 Genom    wedi datblygu ystod o animeiddiadau byr, lawrlwythiadau a throsolygon gan gynnwys gwybodaeth am y canlynol: dilyniannu genom; geneteg a chlefydau prin; geneteg a chanser
 
Mae'r Rhaglen Addysg Genomeg   wedi'i hysgrifennu'n fwy ar gyfer staff gofal iechyd ond mae ganddi amrywiaeth o wybodaeth hygyrch a chyrsiau ar-lein rhad ac am ddim y gallwch eu cyrchu er mwyn deall mwy am geneteg.

Wales Gene Park

Mae gan Barc Genynnau Cymru amrywiaeth o wybodaeth wedi'i theilwra ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol ynghylch datblygiadau a chyfleoedd yng Nghymru.

Back to top