i'w ddarllen yn Gymraeg
O 6 Tachwedd 2023, symudodd tîm clinigol Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan i Ganolfan Iechyd Genomeg Cymru (CIGC) sydd newydd agor ym mharc busnes Cardiff Edge yng Ngogledd Caerdydd Coryton. Mae’r safle hwn ychydig oddi ar Gyffordd 32 traffordd yr M4 a thua 3 milltir o’i leoliad presennol ar gampws Ysbyty Athrofaol Cymru.
Bydd cleifion sy'n cael eu hatgyfeirio at wasanaeth clinigol Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan ar gyfer apwyntiadau genetig a genomeg personol yn awr yn cael y dewis o fynychu gofod clinig modern a phwrpasol Canolfan Iechyd Genomeg Cymru. Bydd cleifion hefyd yn parhau i gael cynnig apwyntiadau galwad ffôn neu fideo yn unol â'u hanghenion a'u dewis unigol.
Patients referred to the AWMGS clinical service for in-person genetic and genomic appointments will now have the option of attending the CIGC’s state-of-the-art and purpose-built clinic space. Patients will also continue to be offered telephone or video call appointments in accordance with their individual needs and preference.
Pa Wasanaethau Clinigol Fydd Ar Gael yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru?
Clinigau geneteg cyffredinol
Clinigau geneteg canser
Clinigau geneteg cynenedigol
Clinigau niwrogeneteg
Pam mae Tîm Clinigol Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan yn Symud?
Wrth i’r galw am wasanaethau genomeg yng Nghymru barhau i gynyddu, hoffem ofalu am ein cleifion mewn adeiladau sy’n bodloni’r safon ansawdd a ddymunir ac nid yw’r mannau clinig presennol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Sefydliad Geneteg Feddygol yn ein galluogi i gyflawni hyn yn y tymor hir. Mae Canolfan Iechyd Genomeg Cymru yn cynnig ardaloedd clinig eang, cyfforddus a llachar sydd wedi'u cynllunio'n benodol i ddarparu gofal cleifion rhagorol i'r rhai sydd angen ein gwasanaethau genomeg. Mae Canolfan Iechyd Genomeg Cymru yn ganolbwynt ar gyfer genomeg a fydd bellach yn gartref i ymchwil genomeg barhaus yng Nghymru, sy’n hanfodol i’n galluogi i barhau i wella gofal cleifion.
Beth yw'r Manteision i Gleifion?
-
Mannau clinig pwrpasol o’r radd flaenaf – wedi’u cynllunio gydag ymgynghoriad parhaus a chyfranogiad cleifion ac aelodau’r cyhoedd, gyda’r technolegau a’r adnoddau diweddaraf. Mae'r uwchraddiad hwn yn addo gwell gofal i gleifion a phrofiad cleifion mewn amgylchedd golau, cyfforddus sydd wedi'i gynllunio'n ofalus i helpu i ddiwallu anghenion amrywiol unigolion sy'n derbyn gofal gennym ni.
-
Integreiddio gwasanaethau – bydd adleoli tîm clinigol Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan yn ein rhoi mewn man cydweithredol ochr yn ochr â phartneriaid allweddol eraill o fewn y maes genomeg, a fydd yn meithrin mwy o rannu gwybodaeth, arbenigedd ac integreiddio gwasanaethau. Bydd hyn yn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer arloesi, gan arwain at wasanaethau gwell i gleifion nawr ac yn y dyfodol.
-
Gwell cynaliadwyedd gwasanaethau clinigol - wrth i’r galw ehangach ar wasanaethau clinigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru barhau i newid a datblygu, rydym am sicrhau bod cleifion yng Nghaerdydd a De-ddwyrain Cymru sy’n defnyddio’r gwasanaeth genomeg drwy Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan yn parhau i gael gofod lle rhoddir blaenoriaeth i’w hanghenion. Mae’r gofod clinig newydd yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru yn darparu lleoliad pwrpasol, gan roi sicrwydd i’n cleifion am barhad gofal a gwell tawelwch meddwl.
-
Gwell hygyrchedd - mae'r lleoliad newydd yn cynnig digon o le parcio am ddim ar y safle i'r rhai sy'n mynd i'r safle mewn cerbyd. Ar gyfer cleifion ag anghenion hygyrchedd, mae mannau parcio i'r anabl ar gael, ac mae'r cyfleuster yn hygyrch ar ramp. Yn ein derbynfa a man aros cleifion, mae yna gyfleusterau toiled hygyrch.
-
Mwy o hyblygrwydd i ddiwallu anghenion cleifion - mae argaeledd y clinig newydd yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru yn golygu y gallwn fod yn fwy hyblyg nag erioed wrth ddiwallu anghenion amrywiol ein cleifion wrth i ni barhau i groesawu ffyrdd arloesol o gynnal ein hapwyntiadau, gydag apwyntiadau ffôn a fideo yn cael eu cynnal ochr yn ochr â hyn, lle bo’n briodol.
Os hoffech roi unrhyw adborth annibynnol ar yr wybodaeth a ddarperir yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch adleoli ein gwasanaethau, anfonwch e-bost i Genomicspartnershipwales@wales.nhs.uk neu ffoniwch 07812495339, eu gallwch gysylltu â'ch tîm Llais lleol i roi adborth a cheisio cyngor annibynnol cardiffandvaleenquiries@llaiscymru.org / 02920 750112
Byddwn hefyd yn cynnal nifer o sesiynau galw heibio, yn bersonol ac ar-lein, a fydd yn agored i bob aelod o'r cyhoedd. Bydd y rhain yn gyfle i gwrdd ag aelodau o dîm clinigol AWMGS a rhannu unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych am y clinig sydd newydd ei leoli.
Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn gwerthuso unrhyw adborth a gawn ar yr wybodaeth a ddarperir yma yn barhaus. Byddwn yn ystyried hyn, yn ogystal â data ar sut mae ein cleifion yn parhau i ddefnyddio ein gwasanaethau yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru ac Ysbyty Athrofaol Cymru, i lywio sut yr ydym yn bwrw ymlaen â gweithredu ein gwasanaethau yn y dyfodol ac yn benodol a yw gwasanaethau’n parhau i redeg yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Am fwy o wybodaeth ewch i'n tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Mae amserlen y sesiwn galw heibio fel a ganlyn:
Sesiwn 1) 11 Ionawr - ar-lein
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma
Sesiwn 2) 15 Ionawr - Wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma
Sesiwn 3) 24 Ionawr - ar-lein
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma
Mae cyfeiriad llawn y clinig sydd newydd ei leoli fel a ganlyn:
Canolfan Iechyd Genomeg Cymru / Wales Genomic Health Centre
Parc Busnes Edge Caerdydd
Longwood Drive
Yr Eglwys Newydd
CAERDYDD
CF14 7YU