There are a number of reasons why patients are referred to the cancer genetics service. Often this is because they are concerned by the number of their relatives that have been diagnosed with the condition. We a

 
Mae yna nifer o resymau pam mae cleifion yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth geneteg canser. Yn aml mae hyn oherwydd eu bod yn pryderu am nifer eu perthnasau sydd wedi cael diagnosis o'r cyflwr. Rydym hefyd yn gweld cleifion y gwyddom y gallent fod mewn mwy o berygl o gael canser oherwydd ein bod eisoes wedi canfod newid genyn ynddynt hwy neu yn un o'u perthnasau.
Yn anffodus, mae canser yn gyffredin iawn. Mor gyffredin mewn gwirionedd bod gan y rhan fwyaf o bobl o leiaf un perthynas sydd wedi cael math o ganser. Mae mwyafrif y canserau, mwy na 90%, yn digwydd ar hap oherwydd cyfuniad o ffactorau gwahanol. Gall hyn gynnwys rhai ffactorau genetig ond hefyd llawer o ffactorau amgylcheddol. Yn ffodus, dim ond mewn canran fechan o deuluoedd mae'n ymddangos bod genyn wedi newid yn pasio i lawr drwy'r teulu sy'n cynyddu'n sylweddol risg unigolyn o ddatblygu canser.
Os ydych yn pryderu y gallai fod gennych gyflwr genetig sy'n cynyddu eich risg o ganser, byddem yn eich annog i drafod hyn ag un o'ch tîm gofal iechyd. Byddant wedyn yn penderfynu a oes angen i chi gael eich gweld gan Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan.

 


Holiadur hanes teuluol
 
Os cewch eich cyfeirio at Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan oherwydd hanes teuluol neu bersonol o ganser, mae'r broses ychydig yn wahanol i gael eich cyfeirio atom am resymau eraill. Mae hyn oherwydd na fydd angen apwyntiad clinig ar bawb.
Oni bai ein bod eisoes yn adnabod eich teulu neu'n gwybod am y newid genetig sydd wedi'i ganfod ynoch chi neu un o aelodau eich teulu, byddwn fel arfer yn anfon holiadur hanes teulu atoch. Mae hyn yn ein helpu i gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl am eich teulu a'r bobl sydd wedi cael canser. Bydd hyn yn helpu’r tîm i wneud asesiad o’r risg i chi a’ch teulu, a thrafod unrhyw sgrinio a/neu brofi a allai fod ar gael.
notice1   
Mae'n bwysig iawn eich bod yn cynnwys cymaint o fanylion â phosibl ar yr holiadur.
 

Dylid postio'r holiadur hanes teuluol yn ôl atom gan ddefnyddio'r amlen ragdaledig fel y gallwn ddechrau ein hasesiad ohonoch chi a'r teulu. Os nad yw'r amlen gennych bellach, gallwch anfon yr holiadur atom i'r cyfeiriad ar eich llythyr.
Unwaith y derbynnir yr holiadur yn yr adran, bydd ein tîm yn llunio diagram o hanes eich teulu ac efallai y byddant yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth. Unwaith y bydd y tîm yn gwneud asesiad, byddwch yn derbyn llythyr yn rhoi gwybod i chi am ein hasesiad. Ni fydd angen apwyntiad ar bawb. Efallai y byddwn hyd yn oed yn trefnu mwy o sgrinio iechyd heb fod angen eich gweld yn y clinig.
Fel arall, efallai y bydd ein hasesiad yn pennu y byddwch yn elwa o gael apwyntiad. Yn y sefyllfa hon, byddwn yn trefnu apwyntiad i chi gael eich gweld gan aelod priodol o'r tîm.

 


Eich apwyntiad geneteg canser
 
Yn ystod apwyntiad rydym yn gofyn cwestiynau pellach amdanoch chi a'ch teulu. Os bydd angen i chi gael eich archwilio, bydd un o'r meddygon yn eich gweld. I rai cleifion, yn enwedig y rhai sydd â newid genetig hysbys yn y teulu, gall profion genetig fod yn ddefnyddiol. Trafodir hyn yn ystod yr apwyntiad.
Rydym yn deall y gallai fod gennych lawer o gwestiynau cyn eich apwyntiad gyda ni. I wneud pethau’n haws, rydym wedi llunio rhestr ddefnyddiol o’n cwestiynau mwyaf cyffredin i’ch arwain.

 


 

Taflen HRT a Hanes Teuluol

 


 Back to top