Hysbysiad o newidiadau i Lwybr Adrodd DPYD i lanlwytho Porthol Clinigol Cymru yn unig.

 

O 2 Medi 2024, bydd holl adroddiadau DPYD yn cael eu lanlwytho i Borthol Clinigol Cymru yn unig. Ni fydd adroddiadau DPYD bellach yn cael eu hanfon ar e-bost na'u postio at ysgrifenyddion a meddygon sy’n atgyfeirio.
 
Mae profi amrywiadau yn y genyn dihydropyrimidine dehydrogenase (DPYD) yn brawf allweddol i gleifion canser sy'n cael eu trin â chemotherapi. Rhwng 2022-23, prosesodd GGFCG tua 2433 o samplau. Mae'r tîm labordy wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth effeithlon a syml. Bydd y newid hwn yn gwella darpariaeth gwasanaethau ac yn gwneud adroddiadau yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr, gan wella gofal cleifion.
 
Diolch am eich cefnogaeth a'ch dealltwriaeth.