Mae’n bleser gennym rannu newyddion gwych o gynhadledd haf ddiweddar y Gymdeithas Gwyddorau Genomeg Feddygol, yr ACGS.

 

Cafodd Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, GGFCG, ei gynrychioli'n dda gyda chyfraniadau rhagorol gan aelodau ein tîm, Kieron Millard, Sophie Bannister, a Fiona Kerr.
Derbyniodd Kieron Millard wobr am y Sgwrs Orau am ei gyflwyniad ar awtomeiddio cod PVS1 ACMG. Roedd ei arbenigedd yn amlwg i bawb, ac atebodd ambell gwestiwn digon anodd yn effeithiol iawn.
Dyfarnwyd gwobr y Poster Gorau i Sophie Bannister am ei gwaith "Gwerthusiad o’r Gwasanaeth Profi Cyn-geni Anymwthiol (NIPT) yng Nghymru ar gyfer Beichiogrwydd ag Anomaledd y Ffetws ar Sgan Uwchsain." Roedd ei phoster yn dangos arwyddocâd ac effaith y gwasanaeth NIPT yn effeithiol iawn, a gwnaeth argraff fawr ar y beirniaid a’r cynadleddwyr.
Hefyd, cyflwynodd Fiona Kerr y poster ardderchog "Gweithredu'r Gwasanaeth Dilyniant Cyflym sy'n Gysylltiedig â Beichiogrwydd (PRRS) yn GIG Cymru," gan arddangos ymhellach y gwaith arloesol sy'n cael ei wneud yn ein labordy.
Rwy’n siŵr ein bod i gyd am longyfarch Kieron, Sophie, a Fiona am eu gwaith ardderchog. Mae eu cyflawniadau yn tanlinellu'r dalent a'r ymroddiad sydd yn ein tîm ac mae’n dod â balchder mawr i GGFCG. Rydym yn edrych ymlaen at eu llwyddiannau a'u cyfraniadau yn y dyfodol.
Llongyfarchiadau i bawb!
 
Rydym yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwn yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.