Mae pedwar tîm o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cael eu cydnabod am eu llwyddiannau eithriadol mewn gwasanaethau canser yng Ngwobrau Canser Moondance.  
 
Nod y gwobrau – sef yr unig wobrau canser penodedig yng Nghymru – yw dathlu a thynnu sylw at unigolion a thimau ar draws GIG Cymru a’i bartneriaid sy’n darparu, yn arwain ac yn arloesi ym maes gwasanaethau canser. 
Dyfarnwyd yr anrhydedd ar gyfer Gweithio gyda Diwydiant a’r 3ydd Sector yn y categori Arloesi a Gwella i QuicDNA – a ddatblygwyd gan Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan ar y cyd â llu o bartneriaid, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Canolfan Ganser Felindre a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae’r prosiect arloesol yn defnyddio profion biopsi hylif pan amheuir canser yr ysgyfaint i gyflymu mynediad at driniaethau wedi’u targedu. 
Roedd y Gwasanaeth Carsinoma Hepatogellol Rhanbarthol ar gyfer De Cymru hefyd yn enillwyr, ac mae’n cael ei redeg mewn partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro,Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a enillodd wobr Gweithlu Canser yn y categori Arloesi a Gwella. Dyfarnwyd yr anrhydedd i'r tîm am ddatblygu gwasanaeth clinigol a chyfannol i wella canlyniadau i gleifion sy'n byw gyda chanser yr afu (carsinoma hepatogellol).   
Roedd Ehangu’r Gwasanaeth Canser i Bobl Ifanc yn eu Harddegau ac Oedolion Ifanc, sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Canser Pobl Ifanc yn eu Harddegau a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn enillydd ar y cyd gwobr Profiad Gwell i Gleifion am ddatblygu model allgymorth sy’n sicrhau bod pobl ifanc â chanser ar draws de Cymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau a chymorth cyfannol.  Dan arweiniad Nyrs Glinigol Arbenigol i Bobl Ifanc yn eu Harddegau ac Oedolion Ifanc a dau gydlynydd cymorth ieuenctid, mae’r gwasanaeth wedi gweld cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau ers iddo gael ei roi ar waith. 
 Enillodd tîm Caerdydd a’r Fro sy’n cynnal Gwasanaeth Metastasis Peritoneol y Colon a’r Rhefr Cymru Gyfan y wobr Triniaeth Canser am sefydlu’r gwasanaeth cyntaf o’i fath i Gymru. Cyn ei gyflwyno, yr unig opsiwn i gleifion fyddai’n cael diagnosis o metastasis peritoneol oedd cael cemotherapi lliniarol, oni bai eu bod wedi gwneud cais i gael y driniaeth hon, a allai gynnig gwellhad, dros y ffin yn Lloegr, y penderfynir ar hynny fesul achos. Mae'r tîm yng Nghaerdydd a'r Fro wedi gweithio gydag arbenigwyr yn y ganolfan ragoriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol - Sefydliad Malaenedd Peritoneol Basingstoke - i ddod â'r driniaeth hon i Gymru.  
 
Canmolodd y panel beirniadu aelodau’r tîm am ddangos arloesedd, ymroddiad a hunanddatblygiad helaeth i ddarparu safonau uchel o ofal i gleifion â metastasisau peritoneol y colon a’r rhefr yng Nghymru.  
Dywedodd Jody Parker, llawfeddyg colon a rhefr ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac arweinydd prosiect yng Ngwasanaeth Metastasis Peritoneol y Colon a’r Rhefr Cymru Gyfan:
 
“Mae cael cydnabyddiaeth yn y gwobrau yn anhygoel. Mae’n symbol o’r holl waith caled sy’n cael ei wneud gan y bobl sydd yma heno – a’r rheini sydd ddim yma – pawb y tu ôl i’r llenni sy’n gweithio’n galed o ddydd i ddydd i sicrhau bod cleifion yn parhau i elwa o’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu.”
Cafodd enillwyr eleni eu beirniadu gan banel uchel ei barch o arbenigwyr ac arweinwyr, gan gynnwys: Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cymru; Cari-Anne Cuinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru; Judith Paget CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru a’r Athro Kamilla Hawthorne, meddyg teulu a Chadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.  
 
Wrth sôn am Wobrau Canser Moondance, dywedodd Dr Rob Orford, Prif Swyddog Gweithredol Moondance Cancer Initiative:
 
“Cafodd y gwobrau eu creu i ddathlu a diolch i’r bobl sydd wedi rhoi o’u hamser i wella ac arloesi llwybrau canfod, diagnosis a thriniaeth ar draws gwasanaethau canser yng Nghymru. Drwy dynnu sylw at y bobl hyn, rydym yn gobeithio y gallwn helpu i ysbrydoli atebion y dyfodol ar gyfer goroesi. Rydyn ni mor falch bod cynifer o bobl o bob rhan o ofal iechyd yng Nghymru wedi dod i ddathlu gyda ni. Llongyfarchiadau i’r enillwyr ac i bawb a enwebwyd ledled Cymru.
“Mae’r gwobrau hyn wir yn dangos bod gwelliannau yn bosibl ac yn digwydd ar draws gwasanaethau canser Cymru. Yn Moondance, rydyn ni’n canfod, yn ariannu ac yn ysgogi pobl wych sydd â syniadau dewr i wella canlyniadau canser i Gymru. Os oes gennych chi, neu eich tîm, ddiddordeb mewn trafod syniad, cysylltwch â ni. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.” 
I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i Gwobrau Canser Moondance | Moondance Cancer Initiative (moondance-cancer.wales)