CYSGODI LOGO2 1
Mae Labordy Genetig Cymru Gyfan (AWGL) wedi bod yn arweinydd y DU yn darparu gwasanaethau patholeg moleciwlaidd meddygaeth fanwl i gleifion canser ers 2009. Mae'r ymdrech i barhau i wella, safoni a diogelu'r gwasanaeth genomeg a ddarparwn i gleifion at y dyfodol wedi arwain y labordy i lansio'r gwasanaeth CYSGODI sy’n disodli’r panel aml-genyn dilyniannu tiwmor solet cenhedlaeth nesaf presennol (Panel Amlganser), a maes o law bydd yn ymgorffori’r panel dilyniannu aml-genyn cenhedlaeth nesaf haemato-oncoleg presennol (Panel Dilyniannu Myeloid TruSight). Mae’r wybodaeth ganlynol wedi’i dylunio fel cyflwyniad i sut mae’r panel yn gweithio, yr ystod o ganfyddiadau y gellir adrodd arnynt ac amserlen ar gyfer gweithredu’r panel.
The following information is designed as an introduction to how the panel works, the range of findings that can be reported and a timeline for implementation of the panel.

 

Manylion y gwasanaeth

 

Mae'r gwasanaeth CYSGODI yn defnyddio prawf Mewnbwn Uchel Oncoleg TruSight 500 sy'n hwyluso canfod amrywiadau niwcleotid sengl, amrywiadau rhif copi, amrywiadau adeileddol (ymasiadau genynnau), MSI a TMB o DNA mewn 523 o enynnau ac RNA mewn 55 o enynnau. Mae'r prawf hefyd yn caniatáu sypynnu hyblyg o samplau o 16 i 192 sampl fesul cell llif dilyniannu ar y NovaSeq 6000. Darperir hyblygrwydd pellach gan allu'r prawf i ddilyniannu DNA ac RNA a dynnwyd o feinwe mewnosodedig paraffin sefydlog fformalin (FFPE), mêr esgyrn a samplau gwaed lewcemig.
Gellir dod o hyd i'r rhestr lawn o enynnau a gwybodaeth bellach am y prawf yma. .
 

 
I gael gwybodaeth fanylach am y gwasanaeth hwn, cyfeiriwch at y daflen wybodaeth gwasanaethyma.