Gweithio gyda'n gilydd i lunio dyfodol ymchwil i glefydau prin
Pam mae Partneriaethau Gosod Blaenoriaethau yn Bwysig
Mae ymchwil iechyd yn cael yr effaith fwyaf pan mae'n mynd i'r afael â'r cwestiynau sydd bwysicaf i gleifion, teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Fodd bynnag, nid yw blaenoriaethau ymchwil bob
amser wedi adle wyrchu profiadau ac anghenion y rhai sy'n byw gyda chyflwr neu'n darparu gofal.
Mae Partneriaethau Gosod Blaenoriaethau (PSPs) yn helpu i fynd i'r afael â hyn drwy ddod â phobl â phrofiad bywyd, gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynghyd i nodi a blaenoriaethu cwestiynau heb eu hateb am iechyd a gofal. Drwy gydweithio, mae PSPs yn sicrhau bod ymchwil yn y dyfodol yn canolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i'r cymunedau y mae'n anelu at eu gwasanaethu.
Wedi'i ffurfio gan Rwydwaith Ymchwil i Glefydau Prin Cymru ac wedi'i ariannu gan VPAG, mae ein Partneriaeth Gosod Blaenoriaethau ar gyfer Clefydau Prin yn cael ei chyflwyno mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o sefydliadau o bob cwr o'r cymunedau clefydau prin, gofal iechyd ac ymchwil.



